Dyma’r llongddrylliad mwyaf deheuol o’r tri sy’n gorwedd ar ochr orllewinol Afon Leri yn rhan Ynys-las o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi. Cafodd y tair llong eu gadael yn fwriadol ar lan yr afon er mwyn nodi ymyl cwrs yr afon.
Mae’r llong wedi’i hadeiladu o bren ac mae’n dyddio o’r 19eg ganrif. Yn ôl pob tebyg roedd yn rhan o fflyd cludo llechi Derwen-las ac yn symud cargo cyffredinol neu’n gweithio fel fferi o amgylch aber afon Dyfi.
Mae’r tair llong wedi’u diogelu fel Henebion Cofrestredig. Mae’r llong wedi’i rhestru hefyd yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN506769) https://coflein.gov.uk/cy/safle/506769/
Cafodd gweddillion gweladwy’r llong eu cofnodi ar 12 Medi 2022 ochr yn ochr ag ymweliad monitro gan Cadw. Mae arolygon blaenorol yn cynnwys arolygon 2015 (https://skfb.ly/HAQW) a 2017 (https://skfb.ly/6qANo)
Cafodd ein gwaith ei gyflawni’n rhan o Brosiect CHERISH. I gael gwybod mwy, ewch i’n gwefan: http://cherishproject.eu/cy/
Comments