Triangles: 500k
Vertices: 253.1k
More model informationMae’r odyn galch hon (Gradd II Rhestredig) ar y glannau yn edrych dros draeth Cwmtydu, Ceredigion.
Ei swyddogaeth wreiddiol oedd llosgi’r calchfaen oedd yn cael ei mewnforio ar longau. Roedd y calch oedd yn cael ei greu drwy’r broses wedyn yn cael ei wasgaru ar gaeau i wella cynhyrchiant ac i leddfu’r pridd asidig naturiol yr ardal. Defnyddiwyd y calch hefyd i wneud morter calch ar gyfer gwaith adeiladu. Mewnforiwyd y glo a ysgogodd y broses gan long hefyd.
Cofnodwyd yr odyn galch hon ar 24ain Awst 2022 ac mae wedi’i restru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN402848) https://coflein.gov.uk/cy/safle/402848/
Gwnaethpwyd y gwaith fel rhan o Brosiect CHERISH. I ddarganfod mwy, ewch i’n gwefan: http://cherishproject.eu/cy/
Comments