Mae gweddillion llong fawr iawn o bren yn gorwedd yn y tywod yng Nghefn Sidan, Pen-bre, Sir Gaerfyrddin. Mae corff y llong wedi goroesi’n dda ac mae’r pen blaen i gyfeiriad y traeth (y gogledd-ddwyrain). Mae’r starbord (yr ochr dde) wedi dod yn rhydd i ryw raddau, ac mae’r hollt i’w gweld ar hyd canol y safle lle mae prennau isaf corff y llong yn y golwg. Mae’r gweddillion archaeolegol yn ymestyn ar hyd ardal sydd ychydig dros 50 metr o hyd, sy’n golygu bod y llong wreiddiol ychydig yn hirach na hynny’n ôl pob tebyg oherwydd nad yw corff y llong wedi goroesi’n gyfan gwbl.
Ni wyddys ar hyn o bryd beth oedd enw’r llong, ond mae’n fwy na thebyg mai llong o’r enw AUSTRALIA oedd hi – llong bren tua 60 metr o hyd, a gollwyd gerllaw yn 1901.
Cafodd olion gweladwy’r llong eu cofnodi ar 21 Chwefror 2023. Mae’r llong hefyd wedi’i rhestru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN 302164) https://coflein.gov.uk/cy/safle/302164/
Comments