Mae gweddillion llong bren yn gorwedd yn y tywod yng Nghefn Sidan, Pen-bre, Sir Gaerfyrddin. Mae corff y llong wedi goroesi’n dda ac mae’r pen blaen i gyfeiriad y môr (y de). Mae pen blaen y llongddrylliad wedi’i sgwrio wrth iddo ddod i’r golwg, ac mae pwll mawr o ddŵr wedi ffurfio yno. Oherwydd hynny, mae ffotogrametreg yn anodd yn y fan hon oherwydd y dŵr a’r adlewyrchiadau sydd arno. Mae’r starbord (yr ochr dde) wedi goroesi ychydig yn well, ac ym mhen draw gogleddol y llongddrylliad gallwch weld rhai o brennau isaf pen ôl y llong.
Mae’r gweddillion archaeolegol yn ymestyn ar hyd ardal sydd tua 30 metr o hyd, sy’n golygu bod y llong wreiddiol ychydig yn hirach na hynny’n ôl pob tebyg oherwydd nad yw pen ôl corff y llong wedi goroesi’n gyfan gwbl. Ni wyddys beth oedd enw’r llong.
Cafodd olion gweladwy’r llong eu cofnodi ar 21 Chwefror 2023. Mae’r llong hefyd wedi’i rhestru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN 423944) https://coflein.gov.uk/cy/safle/423944/
Comments