Mae Porthclais ym mhen draw gorllewinol penrhyn Dewi yn Sir Benfro. Mae’n gilfach gul sydd wedi’i defnyddio fel man glanio ers canrifoedd. Mae cofnodion mewn dogfennau’n tystio iddi gael ei defnyddio ers o leiaf yr oesoedd canol, ac mae’n fwy na thebyg iddi gael ei defnyddio am amser hir cyn hynny. Mae’r cysgod y mae’r harbwr yn ei gael wedi’i wella drwy ychwanegu morglawdd ar draws ceg y gilfach. Mae’r morglawdd yn dyddio’n ôl i o leiaf y 1720au, oherwydd mae wedi’i gofnodi mewn ffynonellau hanesyddol am y cyfnod hwnnw. Roedd wedi dechrau dadfeilio erbyn dechrau’r 20fed ganrif, ond cafodd ei adfer yn y 1970au ac mae yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac Awdurdod Harbwr Porthclais erbyn hyn.
Buodd CBHC yn arolygu’r morglawdd ar 20 Chwefror 2023. Mae Porthclais wedi’i restru yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (NPRN34342) https://coflein.gov.uk/cy/safle/34342/. Cafodd y gwaith ei gyflawni’n rhan o Brosiect CHERISH. I gael gwybod mwy, ewch i’n gwefan: http://cherishproject.eu/cy/
Comments