Caer bentir hynafol hynod yn Sir Benfro sy’n dioddef yn enbyd o erydiad arfordirol yw Caerfai Camp. Nid yw dyddiad y safle’n hysbys, ond credir i’r gaer gael ei hadeiladu gyntaf yn y cyfnod cynhanesyddol ac iddi gael ei defnyddio gan bobl y gorffennol fel noddfa pan fyddent dan fygythiad.
Mae gan y gaer bedair llinell o ffosydd a rhagfuriau mawr sy’n ymestyn dros ran o bentir naturiol. Mae rhan fawr o du mewn y gaer wedi’i cholli i erydiad ac mae newid hinsawdd a lefelau môr uwch yn parhau i effeithio arni. Caiff y gaer ei monitro’n ofalus a’i hastudio’n fanwl gan dîm y Prosiect CHERISH i ddarganfod mwy am ei hanes cyn i ragor ohoni gael ei golli.
I ddarganfod mwy am Gaerfai Camp, ewch i Coflein: https://coflein.gov.uk/en/site/305396/details/caerfai-promontory-fortpenpleidiau-promontory-fort
I ddarganfod mwy am y Prosiect CHERISH, ewch i’n gwefan: http://www.cherishproject.eu/cy/
Comments