Caer bentir gynhanesyddol gymhleth i’r de o Dyddewi yn Sir Benfro yw Porth y Rhaw. Mae erydiad ar yr arfordir a’r tir wedi effeithio ar rannau helaeth o’r gaer a chredir bod rhyw dri chwarter ohoni wedi’i golli. Y cyfan sydd ar ôl heddiw yw dau bentir tenau siâp-corn wedi’u hamgáu gan gyfres o gloddiau a ffosydd cydgysylltiol gyda dwy fynedfa ddeheuol.
Mae gwaith cloddio wedi dangos i’r gaer gael ei chodi i bob tebyg yn yr Oes Haearn Gynnar neu Ganol a bod pobl yn byw yma yn ystod y cyfnod Rhufeinig hefyd.
Fel rhan o’r Prosiect CHERISH, byddwn yn ymchwilio i Borth y Rhaw ac yn ei fonitro’n ofalus er mwyn dysgu mwy am hanes y safle cyn i fwy ohono gael ei golli.
I ddarganfod mwy am Borth y Rhaw ewch i Coflein: https://coflein.gov.uk/en/site/94210/details/porth-y-rhaw-promontory-fort
I ddarganfod mwy am y Prosiect CHERISH ewch i’n gwefan: http://www.cherishproject.eu/en/
Comments